Rhaglen deledu drama dditectif yw Midsomer Murders a chafodd ei lansio yn 1997 ar ITV. Mae'r sioe yn seiliedig ar gyfres llyfrau Caroline Graham a addaswyd yn wreiddiol gan Anthony Horowits. Y prif gymeriad ar hyn o bryd yw DCI John Barnaby (Neil Dudgeon), sy'n gweithio i CID Causton. Mae'r cymeriad yn gefnder ifancaf i'r cyn prif gymeriad DCI Tom Barnaby (John Nettles). Ymddangosodd Dudgeon gyntaf fel y garddwr Daniel Bolt yn y bennod "Garden of Death" yng nghyfres 4. Ymunodd Dudgeon yn barhaol a'r sioe yn 2011 yn dilyn ymadawiad Nettles. Rhwng 2005 a 2013 roedd yr actor Cymreig Jason Hughes yn ymddangos yn y sioe fel cyd-weithiwr iau DCI Barnaby, sef Ben Jones (Ditectif Sarjant ac yna Arolygydd).
Developed by StudentB